Mae hanes Neuadd Dwyfor yn mynd nôl dros 120 o flynyddoedd. Cafodd yr adeilad Rhestredig Gradd II ei adeiladu yn wreiddiol fel Neuadd Tref a Marchnad yn 1900. Adeg yma manteiswydar ffordd unigryw o wneud arian, sef gadael y cyhoedd gael mynediad i olygfa orau o Bwllheli am gyn lleied a cheiniog, a hynny drwy ddringo i ben to y Neuadd!
Agorwyd yr adeilad yng ngwanwyn 1902 fel lleoliad adloniant, a hynny gyda’r sioe gyntaf “Aladdin!”. Y ffilmiau cyntaf i gael eu dangos yn y neuadd oedd rhai mud, a hynny ym mis Mawrth 1911, ble hefyd cynhaliwyd darlithoedd llusernau hud a pherfformiadau sinematograffi cynnar.
Ym mis Medi 1914 cynhaliwyd cyfarfod i alw ar ddynion lleol i ymuno â'r lluoedd arfog. Ymhlith y siaradwyr roedd Margaret Lloyd George yr oedd ei gŵr David ar y pryd yn AS lleol ac yn Ganghellor y Trysorlys. Ymrestrodd pum dyn yn y cyfarfod hwn.
Yn 1918 gofynnodd Llywodraethwyr ysgolion lleol ar i'r Cyngor Tref sicrhau nad oedd neb o dan 14 oed yn cael gweld ffilmiau, gan eu bod yn pryderu cymaint o gamymddwyn oedd yno gan blant. Gofynnwyd hefyd i'r Cyngor gymryd mwy o ofal wrth ddewis pa ffilmiau i'w dangos yn Neuadd y Dref.
Ym mis Hydref 1919 bu cyffro mawr pan ganodd y gantores fyd-enwog Leila Megáne yma. Hwn oedd ei pherfformiad cyntaf ym Mwllheli ers ei thaith o amgylch tai opera cyfandirol. Roedd hi hefyd wedi canu i filwyr yn Ffrainc yn ystod y rhyfel. Fe'i ganed ym Methesda yn 1891 fel Megan Margaret Jones, ac fe'i magwyd ym Mhwllheli. Ar 12fed Tachwedd 1945, rhoddodd hefyd ei chyngerdd ffarwel yma.
Erbyn 1920 roedd Neuadd y Dref yn sinema llawn amser. Roedd y prosceniwm yn 25 troedfedd o led, gyda balconi siâp ‘U’ a phum rhes o seddi ar y tair ochr. Gosodwyd dau daflunydd Thompson Houston o Brydain yn y Neuadd yn 1949. Gallwch weld un ohonynt yn y cyntedd, ond cawsant eudisodli yn 1993. Erbyn 2013 gosodwyd y taflunydd digidol sydd yn weithredol heddiw.
Cafodd y Neuadd ei gymryd drosodd gan y Cyngor lleol yn 1974, a daeth yn Sinema'r Dref. Cafodd ei ailwampio yn 1993 a'i ailenwi'n Neuadd Dwyfor. Yn 1996 adleolwyd Llyfrgell Pwllheli yn Neuadd Dwyfor.