Dewch gyda ni i dreulio awr,
Mewn byd rhyfeddol rhwng dau glawr,
Brysiwch mewn i'r arall fyd
Lle gallai fod yn haf o hyd.
Casia Williams
Mae Llyfrgell Pwllheli yn ofod cyffrous i ddarllen, dysgu, ymlacio, pori a darganfod. Mae’r llyfrgell ar lawr gwaelod Neuadd Dwyfor, ac yn rhan ganolog o’r adeilad.
Mae papurau newydd lleol a’r Papur Bro ar gael. Mae chwe chyfrifiadur cyhoeddus ar gael i’w ddefnyddio, yn ogystal â chyfrifiadur sydd yn benodol ar gyfer plant. Mae argraffu a ffotogopïo ar gael, a wi-fi am ddim sy’n golygu gallwch ymweld i weithio a defnyddio eich dyfais bersonol.
Mae croeso i ddefnyddwyr y llyfrgell brynu diod neu luniaeth o’r bar yn y cyntedd i fwynhau wrth weithio, darllen neu bori.
Mae yna ddewis eang o lyfrau ffuglen a ffeithiol yn cynnwys casgliadau i blant, oedolion ifanc, hanes lleol a mwy.
Mae dau giosg gwybodaeth ar gyfer darganfod mwy am raglen Neuadd Dwyfor, gwybodaeth am yr ardal neu i chwilio am amseroedd bws lleol.
Trefnir gweithgareddau rheolaidd i fabanod a phlant a theuluoedd fel ein sesiynau rhigwm Ji Babi Bach ac amseroedd stori.
Mae Llyfrgell Pwllheli ar agor o 10.00 yb i 5.00 yh yn ystod yr wythnos ac o 10.00 yb i 1.00 yp ar ddyddiau Sadwrn. Mae’r ardal llyfrgell ar gael i’w logi tu allan i’r amseroedd yma.
Cliciwch yma i bori catalog Llyfrgelloedd Gwynedd
Am wybodaeth am logi Llyfrgell Pwllheli plîs cysylltwch â Neuadd_Dwyfor@gwynedd.llyw.cymru